Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2014 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 09.10 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Craig Stephenson Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad llafar am Murco i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ddatblygiadau ers ei datganiad yr wythnos diwethaf.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai cyfnodau pleidleisio dydd Mawrth a dydd Mercher yn cael eu cynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes ar y dyddiau hynny.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Bydd dadl Cyfnod 1 ar Fil Cynhwysiant Addysg Ariannol (Cymru) Bethan Jenkins yn cael ei chynnal ar 26 Tachwedd 2014. Mae'r ddadl Plaid Cymru a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer 26 Tachwedd wedi cael ei symud i'r wythnos ganlynol.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2014
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Datganiad gan Kirsty Williams: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) (30 munud)
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ddulliau Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi. (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Bil Cymwysterau Cymru
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Cymwysterau (Cymru) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w ystyried yng Nghyfnod 1.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn gohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil tan yr wythnos nesaf, gan roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
4.2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caethwasiaeth Fodern
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Caethwasiaeth Fodern.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau 4 Rhagfyr 2014, fel y gellir trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 9 Rhagfyr 2014.
4.3 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'r Pwyllgor Menter a Busnes er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol erbyn 8 Ionawr 2015 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Ionawr 2015.
4.4 Gorchymyn Adran 109
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Gorchymyn arfaethedig yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn unol â Rheolau Sefydlog 25.7 hyd 25.11. Os bydd y Gorchymyn arfaethedig yn y Cyfrin Gyngor yn cael ei gytuno, cyflwynir gwelliant i'r Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) er mwyn iddo gynnwys darpariaeth sy'n diwygio adran 79 yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Gorchymyn arfaethedig at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a'r Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol i'w hystyried. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai'r ddau Bwyllgor adrodd ar y Gorchymyn arfaethedig erbyn dydd Mercher 3 Rhagfyr fel y gellir trafod y Gorchymyn drafft yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 20 Ionawr 2015.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i’r Llywodraeth sicrhau bod y Gwelliant drafft i Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ar gael cyn gynted ag y bo modd i lywio gwaith craffu y pwyllgor ar y Gorchymyn arfaethedig.
Cytunodd Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth i drafod cais y Rheolwyr Busnes â’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.
4.5 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’w ystyried yng Nghyfnod 1.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn gohirio penderfyniad ar amserlen y Bil tan yr wythnos nesaf, gan roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor.
4.6 Llythyr oddi wrth Darren Millar AC at y Llywydd: Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)
Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Darren Millar AC yn hysbysu'r Llywydd nad oedd ar hyn o bryd mewn sefyllfa i gynnig bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
Cytunodd y Pwyllgor y bydd yn ystyried amserlen newydd ar gyfer Cyfnod 2 unwaith y cytunir ar yr egwyddorion cyffredinol.
5 Pwyllgorau
5.1 Cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad
5.2 Cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad: Penderfyniadau'r Pwyllgor Busnes
Ar gais y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y papurau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth ac Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes ymhellach â Grwpiau Plaid, gan ddychwelyd at y mater yr wythnos nesaf.
5.3 Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar Gofrestru a Datgan Buddiannau Aelodau
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyfleu barn y Pwyllgor Busnes.
5.4 Y Pwyllgor Cyllid: Cais i ymweld â Chaeredin
Derbyniodd y Rheolwyr Busnes gais y Pwyllgor Cyllid i ymweld â Senedd yr Alban i gwrdd â'r Pwyllgor Cyllid a Swyddogion y Llywodraeth yng Nghaeredin ddydd Iau 4 Rhagfyr 2014, sy'n golygu y bydd rhaid i Aelodau adael y Cynulliad am 17.00 ar y dydd Mercher.